| Mi dderbyniais bwt o lythyr Oddi wrth Mr. Jones o'r Brithdir Ac yn hwnnw roedd o'n gofyn Awn i efo Deio i Dywyn Bum yn hir yn sad gysidro P'run oedd ore mynd ai peidio One wedi'r oll bu i mi gychwyn Efo Deio i ffwrdd i Dywyn Fe gychwynnwyd ar nos Wener Doed i Fawddwy erbyn swper Fe gawd yno uwd a menyn Wrth fynd efo Deio i Dywyn. Doed ymlaen a heibio'r Ddinas Caed bara a chwrw ‘Ngwanas Trwy Dalyllyn yr aem yn llinyn, Wrth fynd efo Deio i Dywyn. Doed drwy Aber y Gynolwyn Ac ymlaen dan Graig y Deryn Ond ar gyrraedd Ynys Maengwyn, Gwaeddai Deio, “Dacw Dywyn” Os bydda'i byw un flwyddyn eto Mynna'n helaeth iawn gynilo Mi gaf bleser anghyffredin, Wrth fynd efo Deio i Dywyn |